Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 29 Ebrill 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.03 - 10.48 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Phil Hill, Deisebydd Richard Lee, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru John Pockett, Confederation of Passenger Transport June Thomas, Ymgyrchwr Diffibrilwyr Leol |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Jessica England (Swyddog) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-541Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.2 P-04-542 Cyfleoedd Ymarferol i Bobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am eu barn am y ddeiseb.
2.3 P-04-543 Dim cynnydd mewn ffioedd dysgu prifysgolion
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.4 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.5 P-04-545 Gweithdrefnau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
1. y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ofyn am eu barn am y ddeiseb; a
2. Chyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan i ofyn am ei farn am y ddeiseb ac i ofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â faint o bobl sydd wedi mynegi pryderon tebyg i’r cyngor yn uniongyrchol.
2.6 P-04-546 Magu anifeiliaid dan amodau annaturiol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn i’r deisebwr am eglurhad pellach ynghylch diben y ddeiseb.
2.7 P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
1. ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn am y ddeiseb;
2. cysylltu â’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w hysbysu am y ddeiseb; a
3. rhoi rhagor o ystyriaeth i ymgymryd â gwaith ar y materion a godwyd.
2.8 P-04-548 Ailgyflwyno dosbarthiadau Cymraeg ym Mhrifysgol Rennes.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.9 P-04-549 Gwnewch ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn anthem genedlaethol swyddogol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn iddo roi gwybod i’r Pwyllgor pryd y bydd yn ystyried y mater ac am ragor o wybodaeth ynghylch y rhesymau y bu oedi yn trafod y mater hwn.
3.2 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor am ddatblygiadau’n ymwneud â’r ymgynghoriadau ar Reoliadau sy’n codi o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ac i rannu pryderon y deisebydd gydag ef.
3.3 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y pwyntiau pellach a godwyd gan y deisebydd.
3.4 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru
Wedi’i grwpio gyda deiseb P-04-408 - Gweler eitem 3.3
3.5 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
1. ofyn i’r deisebydd roi gwybod i’r Pwyllgor am y datblygiadau ar ôl bod mewn cysylltiad â swyddogion y Gweinidog ac i ystyried y ddeiseb eto ar ôl cael y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebydd; ac
2. ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ystyried ehangu ymgynghoriadau tebyg yn y dyfodol i bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y busnes a ganlyn o dan Eitem 3 tan y cyfarfod nesaf ar 13 Mai.
3.6 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr
3.7 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru
3.8 P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
3.9 P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed
3.10 P-04-510 Ymchwiliad Cyhoeddus i achos Breckman yn Sir Gaerfyrddin
4 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau’r Aelodau a dangoswyd i’r Pwyllgor sut i ddefnyddio diffibrilwyr.
Sesiwn dystiolaeth: Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru
5.1 P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
5.2 P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo
5.3 P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru
Bu’r tyst yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.